Ym mis Medi, bydd cyfle i bobl ifanc Wrecsam gymryd eu camau cyntaf ar lwybr gyrfa ym maes lletygarwch ac arlwyo diolch i raglen hyfforddiant newydd yng Nghaffi Cyfle, sydd ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cynnig pum rôl hyfforddiant rhan amser i unigolion 18 – 25 oed sy’n awyddus i gael profiad mewn caffi. Bydd y cyfleoedd hyn, sy’n rhan o raglen cyflogadwyedd a hyfforddiant a ariennir yn llawn, yn rhoi cyfle iddynt feithrin sgiliau ymarferol, ennill cymwysterau, ac yn rhoi hwb i’w hyder wrth weithio ochr yn ochr â thîm cefnogol.

Bydd y rhaglen hyfforddiant yn para am 12 wythnos i ddechrau, gyda’r hyfforddeion yn gweithio 22.5 awr yr wythnos. Gan ddechrau ym mis Medi, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â llwybr a fydd yn cynnig cyflwyniad i’r sector lletygarwch ac yn eu paratoi ar gyfer cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Dywedodd Katy Turner, Rheolwr y Caffi a’r Cyfleusterau Cynadledda:

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n dechrau ar eu gyrfa neu sy’n chwilio am ddechrau newydd. Mae Caffi Cyfle yn lleoliad croesawgar a chefnogol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i helpu’r hyfforddeion i ennill y sgiliau mae eu hangen arnyn nhw ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Mae’r cyfnod ymgeisio nawr ar agor, a’r dyddiad cau yw dydd Gwener, 12 Medi 2025 am 12pm.

I ymgeisio neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom recruitment@groundworknorthwales.org.uk neu ffoniwch 01978 757524 a gofynnwch am Katy Turner neu Lorna Crawshaw.

Ariennir y cyfle hwn gan Brosiect Ymgysylltu â’r Gymuned Groundwork Gogledd Cymru gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

cy