Dyfroedd Alun Wrecsam
Mae Caffi Cyfle yn Nyfroedd Alun yn lle gwych i fwynhau bwyd blasus a maethlon am bris rhesymol mewn lleoliad bendigedig yn y Parc Gwledig. Rydym yn defnyddio cynhwysion ffres, lleol ac yn cefnogi cyflenwyr Cymreig.
Rydym yn cynnig brecwast, dewis o deisennau a chynnyrch crwst cartref, bwyd poeth, byrbrydau, cawl a brechdanau, ynghyd â bwydlen i blant, felly bydd pawb yn siŵr o fwynhau ymweld â’r caffi. Ein caffi croesawgar, hamddenol yw’r lle perffaith i eistedd a mwynhau ein danteithion neu ymlacio ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y parc.
Ein gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf yw cefnogi bywydau unigolion o bob gallu, ac mae ein caffi yn ein galluogi ni i redeg rhaglen waith a gwirfoddoli sy’n cynnig cyfleoedd gwaith a datblygiad i’n gweithwyr, hyfforddeion a gwirfoddolwyr. Gall y profiadau hyn arwain at gyfleoedd gwaith, addysg a gwirfoddol eraill yn y dyfodol.
Mae’r Caffi wedi cael sgôr hylendid 5-seren.
Ffôn | 01978 760 700
